Y Datrysiad sy’n cael ei Ddatblygu
Yr amddiffynfa arfaethedig rhag llifogydd arfordirol
- Gwrthglawdd creigiau tua 10m o led ar hyd y Promenâd cyfan (pen Gogleddol i Heol Idris). Gweler y darlun.
- Nid oes bwriad i ailgyflenwi nac ymestyn y traeth.
- Byddai’r grwynau yn cael eu tynnu ymaith lle bo modd, yn ddibynnol ar arolygon amgylcheddol.
- Prif wal i barhau ar yr un uchder – gyda rhai addasiadau ac atgyweiriadau mewn mannau
- Ail wal i gael ei hailadeiladu fel wal atro goncrid gyda gorffeniad â gwead (uchafswm uchder 1.55m).
- Anelu at leihau nifer yr amddiffynfeydd dros dro. Gatiau llifogydd i gymryd lle’r logiau rhwystro ar draws agoriadau allweddol.
- Ystyriwyd opsiynau ar ben gogleddol y cynllun i ddarparu amddiffynfa ychwanegol y tu hwnt i’r promenâd, er mwyn atal y posibilrwydd y gallai’r môr fynd o amgylch yr amddiffynfeydd. Ystyriwyd creigiau amddiffyn ar y traeth o flaen yr arglawdd graean bras presennol, ond drwy ragor o fodelu llifogydd a modelu ffisegol, dangoswyd nad oes
angen yr elfen hon o’r amddiffynfa
Promenâd: Gwella Amwynderau
Hygyrchedd:
- Byddai’r mynedfeydd presennol i’r traeth (grisiau a rampiau)
yn cael eu hailadeiladu gyda graddiannau llai serth,
canllawiau ac arwyneb gwrth-lithro â gwead - Byddai’r ramp cadeiriau olwyn presennol yn Heol-Y-Plas yn
cael ei uwchraddio - Gwella arwyddion a mynegbostiau
Cyfleusterau ac Amwynderau:
- Gwella Goleuo
- Byddai meinciau yn cael eu gosod ar hyd y promenâd
- Lleoliadau wedi’u dynodi ar gyfer gweithgareddau
masnachol (e.e. tryciau bwyd a diod) ger y maes parcio
gogleddol - Blychau plannu gyda phlanhigion ac ardaloedd amwynder
gwyrdd mwy sylweddol o gwmpas y maes parcio gogleddol
Parcio a Diogelwch Ffordd - Cynllun parcio newydd wedi’i gynnig ar hyd Rhodfa’r Môr
Y maes parcio gogleddol i’w adnewyddu
- Ychwanegu sawl croesfan sebra mewn lleoliadau allweddol
- Cyflwyno mesurau arafu traffig
- Rhagor o barcio i feiciau
Ymagwedd tuag at amddiffynfeydd llifogydd
Blaenoriaeth y Datblygiad Arfaethedig ydy diogelu eiddo, businesau a seilwaith.
Bydd y promenâd dal yn profi llifogydd, mae hyn yn rhan o’r datrysiad amddiffyn. Bydd yr ardal hon yn cael ei chau yn ystod digwyddiada llifogydd.
Er mwyn darparu’r un lefel o amddiffyn i’r promenâd, byddai angen i’r brif wal fod yn sylweddol uwch gyda gwrthglawdd llawer mwy, a byddai hynny’n cael effaith weledol sylweddol. Mae gadael i’r promenâd fynd dan lifogydd yn cydbwyso’r angen am amddiffynfa rhag llifogydd â chynnal cymeriad y dref.
Bydd y gwrthglawdd creigiau yn lleihau llifogydd ar y promenâd (effeithiau a pha mor aml y bydd llifogydd yno).
Mae fideos o’r Modelau Ffisegol i’w gweld yma
Cynllun atal llifogydd Bermo
FCRMU@gwynedd.llyw.cymru
YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy
Swyddfa Penrallt
Ffordd Pafiliwn
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Ei’n gwaith
Gwybodaeth
Mentrau
Prosiectau eraill
(01286) 679426


