Y Broblem Risg Llifogydd

Y Broblem Risg Llifogydd

• Yn achos 757 eiddo mae siawns o 1 o bob 100 o
lifogydd yn flynyddol mewn unrhyw flwyddyn.
• Y brif broblem yw llifogydd arfordirol – mae’r
cynllun hwn yn anelu at leihau’r perygl o lifogydd o’r
môr.
• Mae’n gyffredin gweld dŵr yn torri drosodd ym
mhen gogleddol y promenâd o dan amodau
cymharol “arferol”, h.y. llanw canolog, heb ymchwydd
llanw, gwasgedd isel neu wyntoedd cryfion.
• Yn ystod storm Ionawr 2014, achoswyd difrod sylweddol
a effeithiodd ar Ogledd a De Abermaw, gan gynnwys
Caffi’r Promenâd.
•Perygl cynyddol o ddŵr yn llifo drosodd o ganlyniad i
gyflwr asedau’n dirywio a newid hinsawdd, sy’n
gwneud i lefel y môr godi ac yn creu mwy o stormydd
(mae hyn yn golygu tonnau uwch a hynny’n amlach,
ynghyd â stormydd amlach a chryfach).
• Mae 2 gwrs dŵr yn gollwng i’r môr drwy system pwmpio
dŵr wyneb a chwlfert ar wahân sydd wedi’i sgrin.

Problem y Perygl o Lifogydd: Cyflwr

• Mae’r dirywiad yng nghyflwr rhai o’r amddiffynfeydd arfordirol
yn cynyddu’r perygl o lifogydd o’r môr ac yn debygol o
waethygu llifogydd o ganlyniad i ddŵr wyneb.
• Mae elfennau strwythurol yr amddiffynfeydd (e.e. grwynau pren,
y brif wal a’r wal gynnal, pyst sylfaen dur, a’r wal lifogydd
eilaidd) yn amrywio o ran faint o amser y byddant yn para. Mae
angen trwsio neu wella rhai rhannau’n barhaus, ac oni wneir
hynny mae perygl y byddan nhw’n aneffeithiol.
• Mae pyst sylfaen dur wedi cyrydu, gan deneuo a ffurfio
tyllau, a chreu llwybr i’r môr olchi deunydd allan o dan y
promenâd.
• Ceir arwyddion o wanhau’r sylfeini o dan y promenâd, ac mae
canlyniadau arolwg radar o’r ddaear yn dangos y posibilrwydd o
wagle o dan y promenâd a bod deunydd wedi’i olchi allan yn y pen
gogleddol.
• Heb fuddsoddiad ychwanegol, mae’n debygol y bydd
rhagor o wagle’n cael ei greu, gan wanhau strwythurau’r
ffryntiad.
• Er enghraifft, achosodd storm fis Mawrth 2020 i bromenâd
y Gogledd ddymchwel yn sgil y gwagle oddi tano.
• Mae mannau mynediad i’r traeth mewn cyflwr gwael ac
mae grwynau’n cyfyngu ar symudedd ar hyd y traeth, sy’n
cynyddu’r risg y bydd pobl yn cael eu dal gan lanw uchel.

Fideo Cynllun Lliniaru Llifogydd Promenâd Gogledd Abermaw

Cynllun atal llifogydd Bermo

FCRMU@gwynedd.llyw.cymru

YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy

 

Swyddfa Penrallt 

                                                                                                                                   

Ffordd Pafiliwn

 

Caernarfon

 

Gwynedd

 

LL55 1SH