Y Datrysiad sy’n cael ei Ddatblygu

Yr amddiffynfa arfaethedig rhag llifogydd arfordirol

  • Gwrthglawdd creigiau tua 10m o led ar hyd y Promenâd cyfan (pen Gogleddol i Heol Idris). Gweler y darlun.
  • Nid oes bwriad i ailgyflenwi nac ymestyn y traeth.
  • Byddai’r grwynau yn cael eu tynnu ymaith lle bo modd, yn ddibynnol ar arolygon amgylcheddol.
  • Prif wal i barhau ar yr un uchder – gyda rhai addasiadau ac atgyweiriadau mewn mannau
  • Ail wal i gael ei hailadeiladu fel wal atro goncrid gyda gorffeniad â gwead (uchafswm uchder 1.55m).
  • Anelu at leihau nifer yr amddiffynfeydd dros dro. Gatiau llifogydd i gymryd lle’r logiau rhwystro ar draws agoriadau allweddol.
  • Ystyriwyd opsiynau ar ben gogleddol y cynllun i ddarparu amddiffynfa ychwanegol y tu hwnt i’r promenâd, er mwyn atal y posibilrwydd y gallai’r môr fynd o amgylch yr amddiffynfeydd. Ystyriwyd creigiau amddiffyn ar y traeth o flaen yr arglawdd graean bras presennol, ond drwy ragor o fodelu llifogydd a modelu ffisegol, dangoswyd nad oes
    angen yr elfen hon o’r amddiffynfa

Promenâd: Gwella Amwynderau
Hygyrchedd:

  • Byddai’r mynedfeydd presennol i’r traeth (grisiau a rampiau)
    yn cael eu hailadeiladu gyda graddiannau llai serth,
    canllawiau ac arwyneb gwrth-lithro â gwead
  • Byddai’r ramp cadeiriau olwyn presennol yn Heol-Y-Plas yn
    cael ei uwchraddio
  • Gwella arwyddion a mynegbostiau

Cyfleusterau ac Amwynderau:

  • Gwella Goleuo
  • Byddai meinciau yn cael eu gosod ar hyd y promenâd
  • Lleoliadau wedi’u dynodi ar gyfer gweithgareddau
    masnachol (e.e. tryciau bwyd a diod) ger y maes parcio
    gogleddol
  • Blychau plannu gyda phlanhigion ac ardaloedd amwynder
    gwyrdd mwy sylweddol o gwmpas y maes parcio gogleddol
    Parcio a Diogelwch Ffordd
  • Cynllun parcio newydd wedi’i gynnig ar hyd Rhodfa’r Môr

Y maes parcio gogleddol i’w adnewyddu

  • Ychwanegu sawl croesfan sebra mewn lleoliadau allweddol
  • Cyflwyno mesurau arafu traffig
  • Rhagor o barcio i feiciau

Ymagwedd tuag at amddiffynfeydd llifogydd
Blaenoriaeth y Datblygiad Arfaethedig ydy diogelu eiddo, businesau a seilwaith.

Bydd y promenâd dal yn profi llifogydd, mae hyn yn rhan o’r datrysiad amddiffyn. Bydd yr ardal hon yn cael ei chau yn ystod digwyddiada llifogydd.

Er mwyn darparu’r un lefel o amddiffyn i’r promenâd, byddai angen i’r brif wal fod yn sylweddol uwch gyda gwrthglawdd llawer mwy, a byddai hynny’n cael effaith weledol sylweddol. Mae gadael i’r promenâd fynd dan lifogydd yn cydbwyso’r angen am amddiffynfa rhag llifogydd â chynnal cymeriad y dref.

Bydd y gwrthglawdd creigiau yn lleihau llifogydd ar y promenâd (effeithiau a pha mor aml y bydd llifogydd yno).

Mae fideos o’r Modelau Ffisegol i’w gweld yma

Cynllun atal llifogydd Bermo

FCRMU@gwynedd.llyw.cymru

YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy

 

Swyddfa Penrallt 

                                                                                                                                   

Ffordd Pafiliwn

 

Caernarfon

 

Gwynedd

 

LL55 1SH