Cwrdd â’r contractwyr

Mae tîm y prosiect yn cynnwys Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC), Griffiths ac Arup.

Mae YGC yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd ar ran Cyngor Gwynedd. Mae YGC yn gyfrifol am y gwaith o reoli’r prosiect ac am ei weithredu ar gyfer Cyngor Gwynedd.

Penodwyd Griffiths fel Contractwr Dylunio ac Adeiladu’r prosiect. Bydd y cwmni’n rhannu ei arbenigedd ar gyfer y prosiect ynghylch agweddau ymarferol gwaith adeiladu, y gadwyn gyflenwi,
deunyddiau ac ati yn ystod y cam hwn, a byddant yn adeiladu’r amddiffynfeydd arfordirol yn amodol ar sêl bendith Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyluniad terfynol.

Bydd Griffiths yn sicrhau bod y dyluniad a gyflwynir ar gyfer cael cyllid yn addas o ran ei adeiladu, gan osgoi oedi o fewn y rhaglen a chostau annisgwyl yn nes ymlaen.

Arup, a gefnogodd YGC i baratoi’r Achos Busnes Amlinellol yng ngham blaenorol y prosiect, yw dylunydd Griffiths sy’n gyfrifol am ddylunio’r amddiffynfeydd arfordirol, llunio lleoedd, yr Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol a’r dogfennau ar gyfer y caniatâd Cynllunio.

Cynllun atal llifogydd Bermo

FCRMU@gwynedd.llyw.cymru

YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy

 

Swyddfa Penrallt 

                                                                                                                                   

Ffordd Pafiliwn

 

Caernarfon

 

Gwynedd

 

LL55 1SH