Polisi Rheoli Traethlin

Mae Abermaw yn dod dan Gynllun Rheoli Traethlin 2 (CRhT2) Gorllewin Cymru (2011). Y polisi presennol ar gyfer Promenâd Gogledd Abermaw ydy ‘cynnal y llinell’ yn y tymor byr. Mae CRhT2 yn nodi pwysau sylweddol yn sgil codiad yn lefel y môr, ac yn awgrymu y bydd yn debygol o fynd yn gynyddol anodd cynnal y llinell bresennol ac y dylid newid i ‘adlinio a reolir’ ar gyfer y tymor canol a’r hirdymor. Mae “tymor byr” yn mynd hyd at 2025, “tymor canol” hyd at 2055 a “hirdymor” hyd at 2105.  

Mae CRhTau ar lefel uchel gyda amserlen dangosol. Canfu astudiaethau manwl fod erydu arfordirol a pherygl llifogydd yn rhyngweithio â glannau cyfagos Llanaber a De Abermaw (y ddau yn ‘cynnal y llinell’ yn yr hirdymor). Gyda modelu a gwerthuso, mae’r achos dros fuddsoddi i wella’r amddiffynfeydd hyd at 2075 wedi’i brofi. Mae’r dull yma o reoli’r traethlin yn i groes i’r polisi rheoli traethlin presennol ar gyfer y rhan yma o’r arfordir, felly mae’r polisi presennol yn cael ei herio.  

Yn yr hirdymor, ceir dewis o opsiynau yn amrywio o gynnal y llinell gyda buddsoddiad, i gynnal neu wella’r amddiffynfeydd, i ddigomisiynu’r cyfan/rhywfaint o’r promenâd presennol er mwyn galluogi adlinio a reolir (ar y dde isod). Bwriedir monitro perfformiad yr amddiffynfeydd. Bydd y canfyddiadau yn dylanwadu ar yr achos dros fuddsoddiad pellach a’r ymagwedd hirdymor. 

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn a’r broses o werthuso ac arolygu opsiynau sydd wedi digwydd hyd yma, a sut y maent yn berthnasol i’r polisi rheoli traethlin, ar gael yn y ddogfen.

Er mwyn derbyn caniatâd  statudol bydd angen newid i bolisi CRhT2 ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig o Adlinio a Reolir i Gynnal y Llinell hyd at o leiaf 2075. Mae Is-grŵp Newid Polisi wedi’i sefydlu gan Grŵp Arfordirol Gorllewin Cymru i reoli’r newid hwn, yn unol a’i cyfarwyddyd a’r rheoli newid WCGF_Majorpolicychange

Fel rhan o’r broses yma mae YGC yn ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol ynglŷn â’r mater hwn yn benodol. Croesewir eich sylwadau ar y mater, a gofynnwn yn garedig i unrhyw sylw gael ei rhoi ymlaen drwy e-bost callabermaw@gwynedd.llyw.cymru 

neu drwy’r post at:

Ymgynghoriaeth Gwynedd,

Swyddfa Penrallt,

Caernarfon,

Gwynedd,

LL55 1BN. 

Os oes gennych ofynion penodol sy’n golygu bod angen copïau caled o ddogfennau penodol arnoch, ffoniwch y Tîm Ymgynghori ar 01286 679426. 

Mae’r dogfennau a ddefnyddiwyd i gefnogi’r her i’r PRhT cyfredol ar gael isod.  

Teitl Dogfennau
Water Framework Directive Assessment View document
ES Chapter 12 View document
Welsh National Marine Plan Compliance Note View document
HRA Screening and Appropriate Assessment View document
ES Chapter 6 View document
HRA Coastal Squeeze Assessment View document
Appendix L1 – SMP2 Policy Context Note View document
Appendix I2 – Shortlist Matrix Appraisal Summary View document
Appendix I1 – Longlist Matrix Appraisal Summary View document
Appendix H1 – Quantified Project Risk Register View document
Appendix F2 – YGC IEA of Shortlist View document
Appendix F1 – Initial Environmental and Appraisal View document
Appendix C2 – Shoreline Modelling (Arup / ABPmer) View document
Appendix C1 – Coastal Processes Report (ABPmer) View document
Appendix A1 – Economic Appraisal Report View document
Barmouth North Promenade OBC Draft (2021) View document
Managed Realignment Options (P03) View document

Barmouth flood alleviation scheme

FCRMU@gwynedd.llyw.cymru

YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy

 

Swyddfa Penrallt

 

Caernarfon

 

Gwynedd

 

LL55 1BN